FEL XIV. Reversing Language Shift: How to Re-awaken a Language Tradition
This page last updated: 12 September 2010
[Saesneg]
Large conference posters: Trimmed [PDF, 2MB] | With bleed for trimming [PDF, 7MB]
Cynhadledd Flynyddol y Sefydliad dros Ieithoedd Mewn Perygl
Prifysgol
Cymru
y Drindod Dewi Sant: 13-15 Medi, 2010
Nod ac amcanion y Sefydliad dros Ieithoedd mewn Perygl yw cofnodi, diogelu a hyrwyddo ieithoedd sydd dan fygythiad. Rhan o’i weithgareddau yw’r gynhadledd a drefnir yn flynyddol er mwyn dwyn arbenigwyr at ei gilydd o bedwar ban byd i drafod agweddau ar barhad yr ieithoedd hynny. Cynhaliwyd cynadleddau yn ddi-dor bellach er 1996 ac ymhlith y mwyaf diweddar oedd Barcelona, Catalwnia (2004); Stellenbosch, De'r Affrig (2005); Mysore, Yr India (2006); Kuala Lumpur, Maleisia (2007); Ljouwert / Leeuwarden, Ffrisia (2008) a Khorog, Tajikistan (2009). Er derbyn gwahoddiad i Ecwador ar gyfer 2010, oherwydd y cynllunio cyfredol cyffrous sydd bellach yn rhan o strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer creu Cymru ddwyieithog, llwyddwyd i annog y Sefydliad i gynnal y gynhadledd eleni yng Nghymru, ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar 13-15 o Fedi.
Diangen dweud bod Cymru bellach yn denu sylw academyddion blaengar ym maes adfer a chynllunio ieithyddol am amryw resymau, nid y lleiaf bod gennym ein harbenigedd ein hunain sydd yn gwneud cyfraniad sylweddol i gynllunio ieithyddol hyd yn oed mewn gwledydd eraill. Beth bynnag, oherwydd y datblygiadau diweddar sydd fwyfwy amlwg yn achos y Gymraeg (gan gynnwys y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol yn ogystal â’r strategaeth newydd, y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol a’r Mesur ar y Gymraeg, y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a’r Coleg Cymraeg Ffederal arfaethedig), ymddengys fod Cymru hithau yn ffocws diddordeb rhyngwladol bellach o safbwynt y broses o adfer iaith.
Thema’r gynhadledd eleni, felly, yw Gwrthdroi Dyfudiad Iaith: Sut i Adfywio Traddodiad Ieithyddol, a gellir traddodi papurau academaidd yn y Gymraeg. Er bod gan Gymru efallai wersi i’w dysgu i eraill, credir y bydd y perspectif amlweddog a geir ar y testun, drwy gyflwyniadau a chanfyddiadau academyddion rhyngwladol a siaradwyr gwadd, o fudd amhrisiadwy hefyd i’r rhai sydd yn gweithio dros adfer y Gymraeg ac yn fodd i gyfoethogi a dyfnhau eu dealltwriaeth o’r newidynnau cymhleth ac amrywiol sydd ar waith ym maes cynllunio ieithyddol llwyddiannus.
I gael rhagor o wybodaeth, cysyllter â:
Dr Hywel Glyn Lewis
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Caerfyrddin
Ffôn: 01267-676680
E-bost: h.lewis@drindod.ac.uk